Chwarae ac antur mewn coetir

Uchafbwyntiau... rhedeg yn wyllt yn y coetir, adeiladu ffau, chwilio am fywyd gwyllt, cofleidio coed penigamp, her Go Ape!

Ewch yn wyllt yn y coed – ewch ymlaen, gwyddoch eich bod wir eisiau gwneud hynny
 

Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...

Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw

Mwynhewch yr awyr agored ar hyd llwybrau coetir. Gallwch gerdded am filltiroedd yma, ychydig eiliadau o’r M4, drwy goetir sy’n llawn bywyd gwyllt a thawelwch.

Coed Dyffryn Penllergaer

Dewch i fod yn rhan o gynllun adfer sy’n dadorchuddio ac adfer gogoniant blaenorol gardd Fictoraidd anhygoel sy’n cynnwys rhaeadrau a therasau eang dramatig.

Dod ar draws bywyd gwyllt

Profwch y rhyfeddod o ddod ar draws natur yn ein parciau, gerddi a choetiroedd, o deithiau cerdded gyda’r hwyr er mwyn gweld ystlumod, i gyfrinachau cychod gwenyn.

Ewch yn wyllt yn y coed – ewch ymlaen, gwyddoch eich bod wir eisiau gwneud hynny

 
A ydych chi’n chwilio am hwyl i’r plant? Yn y meysydd chwarae naturiol yng Ngardd Coetir Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro, mae digonedd i’w cadw’n hapus am oriau wrth redeg yn wyllt. Does dim arwyddion ‘cadwch oddi ar y glaswellt’ yma. Anogir plant i siglo ar raff ar draws y nant, cadw cydbwysedd ar gerrig sarn, dringo coed, adeiladu ffau, mynd â rhwyd i archwilio pwll, neu hel glöynnod byw. Ac wedi iddynt flino’n llwyr, mae caffi clyd â thân coed sydd â llyfrgell bywyd gwyllt ar gyfer darllen a mwynhau diod.

Darganfod coed hynod

 
Mae gan goed anferth eu hysblander eu hunain. Ewch i gyffwrdd rhisgl ceinciog y goeden gorc sy’n 100 mlwydd oed ym Mharc Gwledig Margam ger Port Talbot, a thra eich bod yno, archwiliwch ffurf y dail ar ddwy diwlipwydden sy’n 200 mlwydd oed i weld sut y cafodd y rhywogaeth ei henw. Wedyn gwelwch faint o bobl sydd eu hangen i amgylchynu boncyff y ffawydden redynddail sy’n 200 mlwydd oed ym Margam. Os na fydd eich pen yn troi, rhowch gais ar her Go Ape! ym Margam, gan ddringo i ben y coed.
 
Yng Ngardd Coetir Colby ger Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro, ceisiwch ddyfalu uchder y gedrwydden goch Siapaneaidd (un o 250 o goed yn unig sydd wedi’u dynodi’n ‘Goed Gorau’ ar gofrestr y DU). Ym Mryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr, edrychwch am goeden arbennig yn yr ardd Siapaneaidd – sef coeden Gingko biloba sy’n 100 mlwydd oed. Mae’r rhywogaeth hon yn olrhain ei hanes yn ôl i’r cyfnod cynhanesyddol. Fel bonws yn yr hydref, mae’r dail hynod eu ffurf yn troi’n lliw aur pur. Syllwch ar hyd y twnnel coed yw sy’n 25 medr o hyd yn Aberglasne. Mae’n 400 mlwydd oed ac yn unigryw yn y wlad hon, wedi’i lunio o blanhigion unigol wedi’u plygu drosodd a’u pegio ar yr ochr draw. I weld y defnydd mwyaf anghyffredin o goeden, ewch i weld y cerflun tal ar ffurf pensil ym Mharc Cwmdoncyn, Abertawe. Mae wedi’i gerfio o foncyff marw hen goeden gas gan fwnci, fel teyrnged i’r bardd mawr Dylan Thomas, a fu’n chwarae yn y parc o dan gysgod y coed fel plentyn.