Dod ar draws bywyd gwyllt

Uchafbwyntiau... teithiau cerdded fin nos i weld ystlumod, y dyfrgi gwibiog, camera cudd mewn cwch gwenyn, trochi mewn pwll, hyddgant o geirw

Profwch y rhyfeddod o ddod ar draws natur yn ein parciau, gerddi a choetiroedd, o deithiau cerdded gyda’r hwyr er mwyn gweld ystlumod, i gyfrinachau cychod gwenyn.

Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...

Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw

Mwynhewch yr awyr agored ar hyd llwybrau coetir. Gallwch gerdded am filltiroedd yma, ychydig eiliadau o’r M4, drwy goetir sy’n llawn bywyd gwyllt a thawelwch.

Parc Gwledig Margam

Cyfuniad o ystad fawreddog gyda bridiau prin, castell hudolus, ac adfeilion hynafol. Mae Margam yn barc y bobl fel yn unlle arall.

Dod yn agos iawn at natur

Syllwch drwy gamera cudd yn ddwfn i ganol cwch gwenyn a gwylio sut mae’r gwenyn gweithgar yn gwneud y mêl gwerthfawr, ym Maenordy Scolton yn Sir Benfro. Neu gallwch ddal sioncod y gwair, dringo coed, archwilio pwll a gwneud eich ffau eich hun yn y coetiroedd yng Ngardd Coetir Colby. Edrychwch i weld lle mae chwistlod dŵr a dyfrgwn i’w cael, a gweld faint o wyfynod sydd wedi’u dal dros nos yn y trapiau gwyfynod.
 
Gallwch deimlo risgl ceinciog y goeden gorc sy’n 100 mlwydd oed, a gweld barcutiaid coch yn hedfan uwchben neu ysgyfarnogod brown yn syrthio allan o’r llwyni rhododendron ym Margam, Port Talbot. A pheidiwch ag anghofio’r hyddgant.
 
 
 
Ewch i ymyl anialdir gyda thaith gerdded drwy’r dyffryn hudol ym Mhenllergaer – y cyfan y gallwch ei glywed yw swn dŵr yn rhuthro, ac os ydych yn lwcus, gallwch weld eogiaid yn llamu i fyny’r afon. Ni fyddech fyth yn gwybod eich bod ar gyrion Abertawe.
 
 
Pan fyddwch yn croesi’r nentydd ym Mryngarw, gwnewch yn siwr eich bod yn edrych am fronwennod y dŵr. Mae ffwlbartiaid, ystlumod dŵr a dyfrgwn swil yn fwy anodd eu gweld, ond maen nhw yno os oes gennych lygaid craff. Os ydych chi’n lwcus, efallai y byddwch yn ymweld ag Aberglasne, Llangathen, ar y diwrnod y bydd y dyfrgwn yn dod i fyny o’r Afon Tywi i wledda ar y llysywod dŵr croyw yn y pwll yn yr ardd.

Mynd ar drywydd ystlumod

Efallai mai effaith y ffilmiau ‘Twilight’ sy’n gyfrifol, ond mae’r teithiau cerdded gyda’r nos yn yr haf i wylio ystlumod ym Mryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr, a Gardd Coetir Colby, ger Dinbych-y-pysgod, bob amser yn boblogaidd dros ben. Mae angen llygad barcud wrth iddi dywyllu, ond mae hanner dwsin o fathau gahanol o ystlumod i’w gweld. Mae gan yr Ystlum Hirglust glustiau sydd bron mor hir â’i gorff, ac mae wrth ei fodd yn gwledda ar bryfed mawr megis gwyfynod a chwilod. Y cyntaf i ymddangos yw’r Ystlum Mawr, sydd ag adenydd cul pigfain, a hwn yw’r ystlum mwyaf cyffredin yng Nghymru. Gellir adnabod yr Ystlum Dŵr, sy’n fach iawn, yn ôl ei wyneb blewog, ac mae’n ffafrio llynnoedd, sy’n esbonio’i enw; mae’n gallu byw am hyd at 20 mlynedd. Mae cymaint o ystlumod ym Mharc Gwledig Margam fel bod cytrefi bridio ym mhob man yn y gerddi, o ystlumod bach yn yr Orendy, ystlumod hirglust yn yr Abaty, ac yn y Tŷ Sitrws crëwyd man cynnes uwchben y bwyler yn arbennig i annog ystlumod i glwydo. Dyna garedig!