Rhyfeddodau’r Dŵr
Mae digonedd o ddŵr yng ngerddi De a Gorllewin Cymru. Efallai y bydd yn gorwedd mewn pyllau gloyw, yn rhuthro dros raeadrau, neu’n crychdonni ar hyd nentydd, ond bydd bob amser yn rhoi golwg unigryw i bob gardd.
Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...
Gerddi Aberglasne
Cloestrau hynafol, golygfeydd ardderchog, bywyd gwyllt, a phlasty ysblennydd – mae’r ardd hon yn cyfuno’r hynafol a’r modern gyda gardd odidog yn ganolbwynt.
Pŵer blodau
O fylbiau’r gwanwyn i rosod afreolus yr haf, dail yr hydref fel gemau o liw, a choed cadarn yn y gaeaf – gallwch fwynhau pleserau drwy gydol y flwyddyn yng ngerddi dynamig De Cymru.
Coed Dyffryn Penllergaer
Dewch i fod yn rhan o gynllun adfer sy’n dadorchuddio ac adfer gogoniant blaenorol gardd Fictoraidd anhygoel sy’n cynnwys rhaeadrau a therasau eang dramatig.
Boed yn bwll llonydd neu’n afon sy’n rhuthro, mae gan ddŵr ffyrdd o wneud argraff arbennig
Dŵr sy’n cynnig yr hwyl orau! Ac mae digonedd o ddŵr yn Ne a Gorllewin Cymru. Mae’n dda i badlo ynddo, siglo drosto ar raff, neidio drosto ar gerrig sarn neu gerdded wrth ei ymyl gan fwynhau bywyd gwyllt a blodau ar lan y dŵr. Yng Ngardd Coetir Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, anogir pawb, yn enwedig plant, i gael hwyl gyda dyfroedd Nant Colby, o rasio hwyaid plastig melyn o dan y pontydd i archwilio pyllau. Mae dyfrgwn, chwistlod dŵr, gweision y neidr a bronwennod y dŵr yn mwynhau’r dirwedd ddyfrllyd hefyd. Yn fwy sidêt, yn yr ardd furiog, gallwch gerdded wrth ymyl cornant gain sy’n rhedeg i lawr o’r gasibo gwyn.


Ym Mhenllergaer ger Abertawe, yr Afon Llan yw’r seren. Mae’n llifo allan o dan yr M4 i lyn tawel, cyn cwympo dros argae’r rhaeadr gyda thair rhaeadr lle gellir gweld eog a brithyll yn aml, yn eu tymor, yn ceisio neidio i fyny’r rhaeadrau. Mae arwyneb tawel y pwll yn Scolton yn Sir Benfro’n rhoi digon o gyfle i ymwelwyr wylio’r hwyaid ac adar gwyllt o guddfeydd ar ei glannau. Mae nentydd y coetir yn Aberglasne’n cynnig hafan ddiogel i chwistlod, ac mae dyfrgwn yn dod i fyny o’r Afon Tywi i wledda’n esmwyth ar lysywod dŵr croyw yn y pwll yn y ardd.