Coed Dyffryn Penllergaer
Mae gardd gudd mewn dyffryn yn Abertawe sydd ag iddi naws ‘ymyl anialdir’ ar fin ailddeffro i fywyd newydd.
Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...
Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw
Mwynhewch yr awyr agored ar hyd llwybrau coetir. Gallwch gerdded am filltiroedd yma, ychydig eiliadau o’r M4, drwy goetir sy’n llawn bywyd gwyllt a thawelwch.
Parc Cwmdoncyn
Efallai ei fod yn ymddangos fel parc cyffredin mewn maestref ddymunol yn Abertawe, ond cafodd Dylan Thomas, bardd modern mwyaf Cymru, ei ysbrydoli gan y parc hwn.
Rhyfeddodau’r Dŵr
Mae digonedd o ddŵr yng ngerddi De a Gorllewin Cymru. Efallai y bydd yn gorwedd mewn pyllau gloyw, yn rhuthro dros raeadrau, neu’n crychdonni ar hyd nentydd, ond bydd bob amser yn rhoi golwg unigryw i bob gardd.
Mae llawer yn digwydd yma. Yn ogystal â llwybrau cerdded iachus ar hyd dyffryn ‘ymyl anialdir’ sy’n 250 erw o ran maint gydag afon fyrlymus Llan fel asgwrn cefn iddo, mae llwybrau a fu ar goll o dan dyfiant wedi’u hadfer, ynghyd â gardd deras 150 mlwydd oed yn yr arddull ‘Pictiwrésg’ a fu’n segur ers blynyddoedd maith. Hefyd, mae arsyllfa lle tynnwyd un o’r ffotograffau cynharaf o’r lleuad, rhaeadr gyda thair rhaeadr lle mae eogiaid a brithylliaid yn ceisio llamu i fyny yn yr hydref, a llyn anferth sy’n cael ei garthu a’i adfywio – dyma ddigon o resymau i ddychwelyd dro ar ôl tro i’r dyffryn hwn. Yn y gwanwyn mae toreth o glychau’r gog ac yn yr hydref mae’r coed egsotig dros ben yn troi’n lliwiau godidog. Mae rhywbeth ar gyfer pob tymor, ac mae’n hafan i fywyd gwyllt.
Bonws i ymwelwyr yw’r siop goffi newydd sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr lleol cyfeillgar. Yn ogystal, gyda mynediad cyflym o’r M4, mae mor hawdd dod yn rhan o un o brosiectau adfer mwyaf cyffrous De Cymru.
Harddwch Cwsg yn Deffro
Rhowch y man hwn ar eich rhestr o leoedd na ddylid eu hesgeuluso. Dyma stori dylwyth teg wirioneddol. Mae gardd mewn dyffryn yn Ne Cymru, a fu’n gudd ers 150 o flynyddoedd, yn cael ei datguddio’n ofalus. Crëwyd yr ardd yn y cyfnod Fictoraidd cynnar ym Mhenllergaer ar gyrion gogleddol Abertawe i arddangos cyfoeth y perchennog, John Dillwyn Llewelyn. Gwariwyd yn ddiarbed. Ym 1832, dechreuodd waith ar ffordd newydd 1.5 milltir o hyd o Felin Cadle, ac ym 1836 gwnaethpwyd newidiadau helaeth i’r tŷ yn yr arddull Clasurol, ac ychwanegwyd ystafell haul. Wedyn aeth ati i weithio ar y dirwedd, gan gerfio teras a oedd yn mynd i lawr at ddyffryn yr Afon Llan yn yr arddull Rhamantaidd ‘Pictiwrésg’ ffasiynol. Adeiladwyd argae ar yr afon a chrëwyd cyfres o lynnoedd gyda thai cychod, a gan ddefnyddio creigiau anferth, adeiladwyd tair rhaeadr ddramatig.
Ond daeth tro ar fyd ac aeth yr ardd dirlun ddarluniadwy hon yn wyllt a diffaith, a chafodd y tŷ ei ddymchwel; ond nawr, gyda help cyllid gan Un Ardd Hanesyddol, mae’r ansoddau rhamantus yn cael eu hadfywio, a’u hagor i’r cyhoedd; mae’r llynnoedd yn cael eu hadfywio, ac mae crefftwaith cain y terasau carreg yn cael ei ddatguddio. Mae’n bosibl na fydd un ymweliad yn ddigon, oherwydd bod y darlun yn newid o wythnos i wythnos wrth i’r ardd ddeffro o’i thrwmgwsg.
Antur Hanes Naturiol
Fel llawer o fonedd Oes Fictoria, roedd hanes naturiol a gwyddoniaeth wrth fodd John Dillwyn Llewelyn, a daeth yn ffotograffydd arloesol. Mae cyfoeth o ddelweddau cyfoes yn dwyn i gof y ddelwedd ramantus o Goedwig Cwm Penllergaer, ac mae’n cynnig cyfeirnod cyfoethog ar gyfer adfywiad presennol yr ardd fel rhywle cyfareddol o amrywiol hwyliau a lle cewch brofiad o natur gyda’r holl synhwyrau. Yn ddwfn yn y goedwig, mae synau adar - cigfrain, sgrech y coed ac eurbincod - yn eich tynnu’n agosach i’w byd cudd, tra bod bwtsias y gog y gwanwyn, cennin pedr gwyllt a rhododendronau’n codi calon. Bydd gweld eog yn llamu yn mynd â’ch anadl. Mae natur gwyllt, anffurfiol, os nad gothig, i’w weld mewn cyfres o olygfeydd, gan eich tywys yn ôl i oes aur hanesyddol Penllergaer ac ymlaen i’w dyfodol llewyrchus.
Oriau agor
Bob diwrnod
Siop goffi: yn ddyddiol
Mynediad
Am ddim
Parcio
20c/awr, £2.00 hyd at 4 awr
Manylion cyswllt
Coed Dyffryn Penllergaer
Heol Llangyfelach
Penllergaer
Abertawe
SA4 9GJ
01792 344224
www.penllergare.org
Cyfleusterau




