Parc Gwledig Margam
Ystad wledig y gall pawb ei mwynhau – dim ond ychydig funudau o’r draffordd ym Mhort Talbot. Dyma fan sy’n mynd â chi’n ôl mewn hanes ac yn ddwfn i gefn gwlad.
Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...
Darganfod Hanes
Gallwch olrhain gorffennol cymysg De a Gorllewin Cymru, o adfeilion canoloesol i rym yr oes ddiwydiannol – mae’r etifeddiaeth sy’n parhau yn gymysgedd hynaws o fwynhad.
Maenordy Scolton
Mwynhewch y profiad o deithio’n ôl i oes fwy hamddenol Fictoria, o fewn y tŷ cain yn ogystal â thu allan yn y parcdiroedd eang.
Dod ar draws bywyd gwyllt
Profwch y rhyfeddod o ddod ar draws natur yn ein parciau, gerddi a choetiroedd, o deithiau cerdded gyda’r hwyr er mwyn gweld ystlumod, i gyfrinachau cychod gwenyn.
Mae plasty Margam a’r 1,000 o erwau o dirwedd naturiol yn cynnig myrdd o ddewisiadau. Profwch 800 mlynedd o hanes yn y parc, crwydrwch drwy adfeilion mynachaidd o’r 12fed ganrif, edmygwch y gwaith adfer cain a wnaed yn yr Orendy a’r Tŷ Sitrws egsotig sy’n llawn coed persawrus. Neu gallwch gerdded drwy’r parc muriog a gweld ceirw Père David o Tsieina, a buches o wartheg Morgannwg anarferol.
Archwiliwch yr hen erddi wedi’u tirlunio gyda choed Tiwlip nodedig, neu os ydych yn teimlo’n egnïol, gallwch ddringo i fyny’r bryniau a chael golygfeydd o’r môr. Gallai’r sawl sy’n hoffi bywyd gwyllt gofrestru ar gyfer cyrsiau’r Cyngor Astudiaethau Maes yng Nghanolfan Ddarganfod ecogyfeillgar Margam a dysgu am weision y neidr, gloÿnnod byw, gwyfynod ac ystlumod – a nadroedd hyd yn oed – sy’n bodoli yn Ne Cymru.
Rhannau mewn Ffilmiau
Mae plasdy a thiroedd Parc Gwledig Margam ym Mhort Talbot wedi cael adfywiad rhyfeddol ond cyffrous – fel lleoliad ar gyfer ffilmiau a rhaglenni teledu. Mae’r ffasâd dramatig, ynghyd â thu mewn gwag yr adeilad, yn ei wneud yn berffaith ar gyfer ailaddurno at ddibenion unrhyw sgript, sy’n ei wneud yn boblogaidd iawn ymhlith gwneuthurwyr ffilmiau, gan gynnwys Doctor Who a Merlin. Maent yn parhau i ffilmio’r gyfres Da Vinci’s Demons, a gyllidwyd gan America – cyfres ffug-wyddonol iasoer yw hi sy’n ymdrin â bywyd cynnar Leonardo da Vinci, y gwyddonydd ac arlunydd o gyfnod y Dadeni, sydd bellach ar ei hail gyfres. Rhwng y ffilmio, bydd ymwelwyr yn gallu gweld rhai o’r setiau rhyfeddol o realistig.
Hwyl Oruwchnaturiol
A ydych chi’n ddigon dewr i ddod wyneb i wyneb ag ysbryd? Dewch i dreulio noson ym Mharc Gwledig Margam ym Mhort Talbot. I fyny’r grisiau, mae’r tŷ’n arswydus o wag a thawel, ac yn y nos, yn ôl pob sôn, mae ysbrydion yn crwydro. Mae chwedlau’n sôn am giperiaid a laddwyd gan botswyr a boneddigesau mewn gwisgoedd crinolin yn camu’n urddasol i lawr y grisiau. Mae mynd ar drywydd ysbrydion ym Margam wedi dod yn weithgaredd poblogaidd ac mae llawer o bobl yn honni bod ysbrydion yn y tŷ.
Ymgolli mewn bywyd gwyllt
Mae’r amrywiaeth eang o gynefinoedd yn y parc yn annog pob math o blanhigion i fynnu - yr esgus perffaith i ymgolli mewn bywyd gwyllt am awr neu ddwy. Lawrlwythwch ap ‘Canfod Margam’ yn rhad ac am ddim i gael uchafbwyntiau hanes naturiol wrth fynd o gwmpas, yn enwedig yr hyddgre o geirw sy’n dyddio’n ôl i gyfnod y Normaniaid. Gwyliwch geirw ewig lwyd, coch a Père David prin - mae enw Tsieineaidd y math olaf, sef ‘sze pu shiang’ yn golygu ‘dim un o’r pedwar’: tybiwyd bod ganddynt wddf camel, cynffon asyn, carnau buwch a chyrn ceirw! Ewch o amgylch Gerddi’r Orendy lle mae draenogod yn cuddio a bronfreithod yn nythu. Mae hwyaid mandarin yn y pwll pysgod a chewch olygfeydd dros laswelltiroedd eang o Safle’r Pulpud lle mae ehedyddion yn trydar. Mae adar ysglyfaethus yn hela dros Gwm Phillip ac mae gloÿnnod byw yn tasgu eu lliwiau drwy’r llennyrch.
Oriau Agor
Bob diwrnod drwy gydol y flwyddyn
Mynediad
Am ddim
Parcio
£4.00
Manylion cyswllt
Parc Gwledig Margam
Castell-nedd
Port Talbot
SA13 2TJ
01639 881635
www.margamcountrypark.co.uk
Cyfleusterau





