Y Gerddi
Dewch i ddarganfod gerddi muriog hynafol, ymhyfrydwch yn y borderi blodau coeth, crwydrwch drwy barciau hynaws neu archwiliwch dirweddau a llechweddau creigiog. Mae ein gerddi, sy’n ymestyn ar hyd a lled De a Gorllewin Cymru, yn rhyfeddol o amrywiol, a byddant yn rhoi diwrnod allan gwych i chi.
Gerddi AberglasneCloestrau hynafol, golygfeydd ardderchog, bywyd gwyllt, a phlasty ysblennydd – mae’r ardd hon yn cyfuno’r hynafol a’r modern gyda gardd odidog yn ganolbwynt. |
Tŷ a Pharc Gwledig BryngarwMwynhewch yr awyr agored ar hyd llwybrau coetir. Gallwch gerdded am filltiroedd yma, ychydig eiliadau o’r M4, drwy goetir sy’n llawn bywyd gwyllt a thawelwch. |
Gardd Coetir Colby‘Does dim arwyddion ‘cadwch oddi ar y glaswellt’ yma, dim ond gwledd ryfeddol o hwyl i blant ac oedolion fel ei gilydd, lle caiff pawb eu hannog i fwynhau pob peth naturiol. |
Parc CwmdoncynEfallai ei fod yn ymddangos fel parc cyffredin mewn maestref ddymunol yn Abertawe, ond cafodd Dylan Thomas, bardd modern mwyaf Cymru, ei ysbrydoli gan y parc hwn. |
Parc Gwledig MargamCyfuniad o ystad fawreddog gyda bridiau prin, castell hudolus, ac adfeilion hynafol. Mae Margam yn barc y bobl fel yn unlle arall. |
Coed Dyffryn PenllergaerDewch i fod yn rhan o gynllun adfer sy’n dadorchuddio ac adfer gogoniant blaenorol gardd Fictoraidd anhygoel sy’n cynnwys rhaeadrau a therasau eang dramatig. |
Maenordy ScoltonMwynhewch y profiad o deithio’n ôl i oes fwy hamddenol Fictoria, o fewn y tŷ cain yn ogystal â thu allan yn y parcdiroedd eang. |

Oriel luniau
Ewch i weld ein lluniau gwych ar Flickr o brif atyniadau ein saith gardd, o fywyd gwyllt i flodau gwyllt