Pŵer blodau

Uchafbwyntiau... gerddi muriog, blodau gwyllt, clychau’r gog, coed penigamp, gardd Siapaneaidd, twnnel ywen bythwyrdd

O fylbiau’r gwanwyn i rosod afreolus yr haf, dail yr hydref fel gemau o liw, a choed cadarn yn y gaeaf – gallwch fwynhau pleserau drwy gydol y flwyddyn yng ngerddi dynamig De Cymru.

Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...

Gerddi Aberglasne

Cloestrau hynafol, golygfeydd ardderchog, bywyd gwyllt, a phlasty ysblennydd – mae’r ardd hon yn cyfuno’r hynafol a’r modern gyda gardd odidog yn ganolbwynt.

Gardd Coetir Colby

‘Does dim arwyddion ‘cadwch oddi ar y glaswellt’ yma, dim ond gwledd ryfeddol o hwyl i blant ac oedolion fel ei gilydd, lle caiff pawb eu hannog i fwynhau pob peth naturiol.

Rhyfeddodau’r Dŵr

Mae digonedd o ddŵr yng ngerddi De a Gorllewin Cymru. Efallai y bydd yn gorwedd mewn pyllau gloyw, yn rhuthro dros raeadrau, neu’n crychdonni ar hyd nentydd, ond bydd bob amser yn rhoi golwg unigryw i bob gardd.

Mae digonedd i’w weld ym mhob un o’r pedwar tymor yn Ne a Gorllewin Cymru

Gwanwyn: Mae gwledd o flodau’r gwanwyn yn Ne Cymru. Mae’r cennin Dinbych euraid, Narcissus obvallaris, yn un o wir frodorion De Cymru, ac mae’n blodeuo’n odidog ym mis Mawrth yn Aberglasne. Mae digon o liw yng Ngardd Coetir Colby, ger Dinbych-y-pysgod, lle plannwyd 40,000 o fylbiau cennin Pedr, crocysau a brithion i greu caleidosgop o liwiau’r gwanwyn. Daw’r gwanwyn â llu o flodau ceirios ym Mharc Cwmdoncyn yn Abertawe, ac ychydig yn hwyrach, gwelir cymylau o glychau’r gog gerllaw ym Mhenllergaer, sy’n werth eu gweld. Heb fod ymhell i ffwrdd, ar ystad 1,000 erw Parc Gwledig Margam ym Mhort Talbot, mae pinc a choch yn ffrwydro fel ewyn wrth i’r rhododendrons enfawr flodeuo. Gerllaw ym Mryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, daw’r gwanwyn mor gynnar â mis Chwefror gydag eirlysiau, ac i ddilyn daw briallu ar lannau’r afon, a thyrrau o glychau’r gog ar ddiwedd mis Ebrill. Tipyn o sioe.
 
Haf: Mae Aberglasne, Llangathen, yn arddangos dôl camassia ar ddechrau’r haf, ac mae’r ardd lysiau furiog gynhyrchiol yn fôr o ‘wyrddion’ o bob math – ac amrywiaeth o ffrwythau. Ewch i’r siop i weld a oes blodau wedi’u torri ar werth o’r ardd, fel y gallwch fynd â darn bach o Aberglasne adref gyda chi.
 
Mae clychau’r gog megis carped ar lawr yng Nghoed Dyffryn Penllergaer, Abertawe, ac i lawr y ffordd ym Mharc Gwledig Margam, Port Talbot, mae miloedd o rododendrons yn gorchuddio’r llechwedd â blodau pinc a choch. Erbyn canol haf mae lliw ym mhob man yn yr ardd furiog yn Aberglasne lle caiff blodau a llysiau eu pigo i’w gwerthu yn y siop a’r caffi, ac yng Nghwmdoncyn mae’r gwelyau blodau’n orlawn â miloedd o blanhigion unflwydd lliwgar. Mae llu o flodau gwyllt yn y dyffrynoedd yn Colby, ac mae’n destun balchder a llawenydd bod tegeirianau gwyllt yn ymsefydlu yn y ddôl flodau gwyllt a heuwyd yn ddiweddar. Anogir ymwelwyr i helpu gwasgaru hadau gwyllt ar gyfer y dolydd.

 
Hydref: Peidiwch â cholli’r olygfa o goed masarn lliwgar ar hyd y llechwedd yn Colby, ac yn yr ardd Siapaneaidd ym Mryngarw, edrychwch am y goeden Gingko biloba sy’n 100 mlwydd oed – mae pob deilen arni’n troi’n ingot o aur pur.
 
Gaeaf: Mae’r blodau wedi pylu – er bod rhododendrons sy’n blodeuo ym mis Rhagfyr yn Colby – a’r coed sydd fwyaf blaenllaw. Syllwch i’r twnnel coed yw bythwyrdd sy’n 25 medr o hyd yn Aberglasne, ac edrychwch am y ffawydden hynafol anferthol a’r goeden gorc geinciog ym Margam. Edmygwch y goeden cedrwydden goch dal yn Colby – mae hon yn ‘Goeden Orau’, a’r secwoia enfawr ym Mhenllergaer. Mae pob un o’r coed hyn yn 100 mlwydd oed neu fwy, a phob un ohonynt yn waith celf byw.