Darganfod Hanes

Uchafbwyntiau... adfer ‘gardd goll’, cyswllt Dylan Thomas, gardd clawstrog prin, awyrgylch Fictorianaidd

Gallwch olrhain gorffennol cymysg De a Gorllewin Cymru, o adfeilion canoloesol i rym yr oes ddiwydiannol – mae’r etifeddiaeth sy’n parhau yn gymysgedd hynaws o fwynhad.

Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...

Dysgwch am bopeth

A ydych chi eisiau diwrnod allan gyda rhywbeth mwy yn perthyn iddo? Mae cyfoeth o wybodaeth ddiddorol i’w chasglu yn ein gerddi a’n parciau, gyda dramâu, cyrsiau penwythnos a sgyrsiau a theithiau tywysedig.

Parc Gwledig Margam

Cyfuniad o ystad fawreddog gyda bridiau prin, castell hudolus, ac adfeilion hynafol. Mae Margam yn barc y bobl fel yn unlle arall.

Maenordy Scolton

Mwynhewch y profiad o deithio’n ôl i oes fwy hamddenol Fictoria, o fewn y tŷ cain yn ogystal â thu allan yn y parcdiroedd eang.

Mae gan bob gardd ei stori i’w hadrodd, ac yn aml mae mwy nag un stori

Gallwch olrhain treigl amser wrth i hanes De Cymru ddod yn fyw eto gydag adferiad y gerddi teras sy’n 200 troedfedd o hyd yng Nghoed Dyffryn Penllergaer, ger Abertawe. Ar ôl cael eu gorchuddio am ganrif, maent nawr yn cael eu datguddio’n ofalus a’i hadfer i’w gogoniant blaenorol. Blaswch awyrgylch y cloestrau a’r parapet canoloesol yng Ngerddi Aberglasne, Llangathen, neu’r olion mynachaidd ym Margam, Port Talbot. Profwch ail-greu’r ardd lysiau furiog ym Maenordy Scolton yn Sir Benfro gyda’i ‘bydew pinafalau’ poeth ar gyfer tyfu ffrwythau trofannol ar gyfer y bonedd.
 
Yng Ngardd Coetir Colby ger Dinbych-y-pysgod, os ewch am dro ar hyd hen lwybrau’r mwynfeydd sydd bellach wedi cael eu hailagor yn y coetiroedd, byddwch yn dod o hyd i lawer o lwyni llawryf llydan sy’n cuddio mynedfeydd i hen fwynfeydd:  roedd y glo carreg Saundersfoot a gloddiwyd yn y dyffryn hwn yn enwog ledled y wlad ac fe’i ffafriwyd gan y Frenhines Fictoria. Neu gallwch deilmio’r ysbrydoliaeth a deimlodd y bardd Dylan Thomas ar ddechrau’r 20fed ganrif ym Mharc Cwmdoncyn ym maestrefi Abertawe, gyda’i ffynnon a’i hen goed rhyfeddol.

Etifeddiaeth fawr oes Fictoria

Roedd pobl oes Fictoria yn Ne Cymru’n bobl gadarn, fel y tai, y cestyll a’r ffatrïoedd a adeiladwyd ganddynt. Gadawsant etifeddiaeth fawr ar eu hôl, yn enwedig yn y fro ddiwydiannol.
 
Mae John Dillwyn Llewelyn yn nodweddiadol, fel dyn â diddordeb mewn gwyddoniaeth a garddwriaeth a adeiladodd dŷ ysblennydd yn yr arddull clasurol a cherfio gardd yn y dyffryn ym Mhenllergaer ar gyrion Abertawe. Yma, bu’n creu llynnoedd a chronfeydd, ac adeiladodd raeadrau a therasau, a llenwodd yr ardd â phlanhigion a choed egsotig a fewnforiwyd.
 
Roedd ymerodraeth Christopher Rice Mansel Talbot wedi’i osod oll yn union o’i flaen – yn y dref haearn a gymerodd ei enw, sef Port Talbot. Gallai edrych i lawr ar y dref o fryniau’r ystad fawreddog a sefydlodd gyda Chastell Margam â’i dyredau fel canolbwynt. Gwariwyd yn ddiarbed wrth i longau gludo plwm o Gaerloyw, llechi o Gernyw a gwydr o Lerpwl i addurno’r castell. Mae’n siwr iddo wneud argraff fawr ar y darpar Frenin Edward VII pan ddaeth hwnnw ar ymweliad.
 
Mae’r ystad fawreddog ym Mryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dyddio’n ôl i 1742, ond perchennog yr ystad yn oes Fictoria, sef Capten Onslow Powell Traherne, a wnaeth ei arian mewn diwydiant, a ehangodd y tŷ a chreu’r dirwedd. Ychwanegodd ardd ffurfiol a phlannu planhigion egsotig megis y diwlipwydden, y goeden hances, magnolia a secwoia enfawr – heb anghofio’r llwyni hynny roedd pobl oes Fictoria yn eu hoffi cymaint – sef rhododendrons.
Mae un hanes yn ymwneud â’r cyrnol a oedd yn llywodraethwr ar Gastell Hwlffordd, a amddiffynnodd Abergwaun rhag ymosodiad gan Ffrainc. Syrthiodd mewn cariad â dyffryn Amroth yn Sir Benfro – ac o bosibl â photensial yr holl byllau glo bach yn yr ardal a oedd yn cynhyrchu glo carreg o ansawdd uchel. Comisiynodd dŷ yn arddull Nash a mynd ati i fwynhau ei lwc dda. Roedd galw mawr am lo carreg Saundersfoot fel tanwydd di-fwg, ac roedd y Frenhines Fictoria’n ei werthfawrogi’n fawr. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y tŷ erbyn hyn ac mae ar brydles breifat, ond etifeddiaeth fwyaf parhaol Colby yw’r dirwedd naturiol yn llawn bywyd gwyllt. Efallai bod Cyrnol Colby wedi anfon plant mor ifanc ag wyth mlwydd oed i’r pyllau glo, ond heddiw mae Gardd Coetir Colby’n eu gwahodd i chwarae.
 
Mae Aberglasne’n rhagflaenu oes Fictoria gyda hanes sy’n ymestyn dros 500 mlynedd. Mae crefydd a gwleidyddiaeth yn mynd law yn llaw a bu rhai dynion pwerus yn chwarae eu rhan, megis yr Esgob Rudd, a ailadeiladodd y tŷ ym 1600 ac a oedd yn ffigur pwysig yn y ddau faes. Yn y 1800au, roedd y perchennog, sef Cyrnol Mayhew, yn llwyrymwrthodwyr ffyrnig a phybyr, ac er mawr siom i’w deulu, rhoddodd orchymyn i daflu holl gynnwys helaeth y seler win i mewn i’r pwll. Pan fu perchennog diweddarach yn carthu’r llyn, daethpwyd o hyd i rai poteli a oedd yn dal yn gyfan.
 
Mae Maenordy Scolton, a orffennwyd ym 1842, yn blasty gwledig traddodiadol, sy’n enghraifft wych o’r ffordd o fyw fonheddig Fictoraidd. Bu’n gartref i dair cenhedlaeth teulu Higgon, ac roedd y dynion, nid yn unig yn fonheddwyr a oedd ‘yn aros gartref’, roedd ganddynt gysylltiadau milwrol cryf hefyd, ac roeddent wedi ymladd yn y ddau Ryfel Byd. Cafodd Mrs Higgon ei hun ei phenodi’n Benswyddog pan fabwysiadwyd Maenor Scolton fel ysbyty adfer yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 
 
Ar wahân i arddangos eu cyfoeth, cafwyd etifeddiaeth fawr arall gan bobl oes Fictoria – sef iechyd da. Lladdwyd llawer o bobl gan golera a thiwberciwlosis hyd nes sylweddolwyd bod dŵr glân, awyr iach a mannau agored o fudd mawr i bobl dlawd a newynog.
 
Daeth Parc Cwmdoncyn yn Abertawe i fodolaeth fel cronfa ddŵr yn wreiddiol ym 1850 yn dilyn dau achos difrifol o golera. Fe’i hadeiladwyd gan ddyn bysnes, William Henry Smith, o’r Swansea Waterworks Company. Fe’i gwnaethpwyd yn barc ym 1874, a phlannwyd blodau lliwgar. Roedd y bobl leol yn amheus i gychwyn, ond newidiwyd eu meddyliau ar ôl adeiladu bandstand ar gyfer cyngherddau ar benwythnosau.
 
Mae etifeddiaeth oes Fictoria yn Ne Cymru’n cael ei hadfer a’i hadfywio heddiw ledled parciau, gerddi a thirweddau. Dewch i fod yn rhan o’r cyfan.