Parc Cwmdoncyn
Daeth hoff fardd Cymru, Dylan Thomas, o hyd i ysbrydoliaeth fel plentyn y yn y parc cysgodol hwn ar lechwedd, sydd â choed egsotig a gwaith plannu lliwgar; ac mae’n parhau i ysbrydoli ei gefnogwyr.
Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...
Darganfod Hanes
Gallwch olrhain gorffennol cymysg De a Gorllewin Cymru, o adfeilion canoloesol i rym yr oes ddiwydiannol – mae’r etifeddiaeth sy’n parhau yn gymysgedd hynaws o fwynhad.
Parc Gwledig Margam
Cyfuniad o ystad fawreddog gyda bridiau prin, castell hudolus, ac adfeilion hynafol. Mae Margam yn barc y bobl fel yn unlle arall.
Coed Dyffryn Penllergaer
Dewch i fod yn rhan o gynllun adfer sy’n dadorchuddio ac adfer gogoniant blaenorol gardd Fictoraidd anhygoel sy’n cynnwys rhaeadrau a therasau eang dramatig.
Fe’i lleolir ym maestref ddeiliog Uplands yn Abertawe, ac roedd rhai o atgofion plentyndod hapusaf hoff fardd Cymru, Dylan Thomas, yn ymwneud â’r parc coediog, blodeuog hwn a saif ar ochr cwm, yn ‘fyd o fewn byd’. Bydd canmlwyddiant ei enedigaeth yn 2014, a’r flwyddyn hon mae Cwmdoncyn yn paratoi i ddathlu’r ffordd, fel y dywedodd, ‘y tyfodd y parc hwnnw i fyny gyda fi...’
Mae prosiect adfer yn gwella’r meysydd chwarae, gan ychwanegu man chwarae a seddau ac ehangu’r pwll; gallwch weld y ‘basn ffynnon lle hwyliais fy llong,’ fel yr ysgrifennodd y bardd. Mae cerflun naturiol o bensil tal wedi’i gerfio o foncyff coeden yn atgof o’r ysbrydoliaeth y daeth o hyd iddi yma, ac erbyn hyn mae pafiliwn tlws lle gallwch ysgrifennu eich meddyliau barddonol eich hun a mwynhau’r golygfeydd dros y môr i Ddyfnaint – o bosibl gydag anogaeth lluniaeth yn y caffi a’r ganolfan wybodaeth.
Llinell y Coed
Mae Parc Cwmdoncyn yn Abertawe wedi bod yn enwog ers amser hir am ei goed, ac mae llawer o enghreifftiau anghyffredin, o gedrwydd coch o Siapan i gochwydd enfawr. Hanes Abertawe fel porthladd sy’n gyfrifol am hyn: roedd coed o dramor yn cyrraedd ar longau ar eu ffordd i Erddi Kew, ac oherwydd safle cysgodol y parc yn y cwm, yn aml plannwyd glasbrennau ifanc yno i weld a fyddent yn ffynnu. Ni chymerwyd y cyfan ohonynt i ffwrdd - er budd Cwmdoncyn.
Ar Ochr y Bywyd Gwyllt
Mae planhigion y parc yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt, hyd yn oed yr iorwg toreithiog nad yw, er gwaethaf y chwedlau, yn barasit. Efallai bod defnyddiau’r planhigyn bythwyrdd brodorol hwn o ran trin dafadennau a gwrthweithio effeithiau gormod o alcohol wedi eu traddodi i lên gwerin, ond mae’r blodau’n parhau i ddarparu digonedd o neithdar ar gyfer pryfed hyd at ddiwedd yr hydref ac mae’r aeron yn fwyd gwerthfawr i adar yn y gaeaf. Efallai y byddwch yn gweld adar bach yn ymddangos o’u nythod dan orchudd yr iorwg hŷn, neu o nythod wedi eu cuddio yn nail trwchus y coed yw yng Nghwmdoncyn, y mae eu ffrwythau coch cigog hefyd yn ffefryn ymhlith yr adar.
Ymhlith yr ymwelwyr eraill sy’n dod i’r parc er mwyn bwydo y mae ystlumod sy’n gwledda ar wybed uwchben y pwll - mae un ystlum lleiaf yn gallu bwyta hyd at 3,000 ohonynt mewn noson - a bydd unrhyw friwsion o’ch picnic yn cael eu bachu’n gyflym gan forgrug, esgyll brithion, adar y to, ac adar a bwystfilod bach eraill.
Oriau Agor
Trwy gydol y flwyddyn: yn ddyddiol
Caffi: 2pm–6pm yn ystod yr wythnos, 10am–6pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul
Mynediad
Am ddim
Parcio
‘Does dim maes parcio. Mae’n rhaid parcio ar ochr yr heol.
Manylion cyswllt
Parc Cwmdoncyn
Park Drive
Abertawe
SA2 0RA
01792 205327
www.swansea.gov.uk/cwmdonkin
Cyfleusterau





