Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw
Cerddwch drwy goetir sy’n llawn bywyd gwyllt, lle mae tîm o geidwaid yn barod i ddangos sgiliau hynafol crefftau maes i chi.
Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...
Parc Gwledig Margam
Cyfuniad o ystad fawreddog gyda bridiau prin, castell hudolus, ac adfeilion hynafol. Mae Margam yn barc y bobl fel yn unlle arall.
Dod ar draws bywyd gwyllt
Profwch y rhyfeddod o ddod ar draws natur yn ein parciau, gerddi a choetiroedd, o deithiau cerdded gyda’r hwyr er mwyn gweld ystlumod, i gyfrinachau cychod gwenyn.
Chwarae ac antur mewn coetir
Ewch yn wyllt yn y coed – ewch ymlaen, gwyddoch eich bod wir eisiau gwneud hynny
Os ydych chi’n hoffi’r awyr agored, ewch i Ben-y-bont ar Ogwr. Ewch ar daith gerdded neu feic o fewn y 113 erw o goetir sy’n amgylchynu ceinder Tŷ Bryngarw. Mwynhewch wefr o weld glas y dorlan fel fflach o liw saffir, a chael cipolwg ar gnocell y cnau yn y coed derw cnotiog, a chwiliwch am fronwennod y dŵr yn pysgota yn y nentydd sy’n llifo’n gyflym – efallai y byddwch yn gweld dyfrgi, hyd yn oed.
Dysgwch sgiliau hynafol crefftau maes, o chwilota am fwyd a diod i gynnau tân ac chreu ffau gyda’n ceidwaid. Wedyn, gallwch fwynhau heddwch yr ardd Siapaneaidd a’i choed masarn tanllyd, cyn ymlacio yn y caffi newydd sbon sydd â bwyd ffres o ffynonellau lleol. Mae picau ar y maen yn un o’i arbenigeddau. Ac mae mêl lleol ar werth – mae’r dolydd blodau gwyllt a’r ffromlys chwarennog yn llawn neithdar sy’n darparu digonedd o fwyd i’r gwenyn. Dyma ddiwrnod allan da.
Cerdded bendigedig
Am daith gerdded iachaol gyda bywyd gwyllt o’ch cwmpas, mae Parc Gwledig Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn taro’r nod. Dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd i’r parc yn 2010, a gyda 113 erw o goetir a dolydd, mae digon o le i grwydro. Lle bynnag yr ewch, mae’n gysur gwybod bod te a phicau ar y maen yn eich disgwyl!
Mae Crwydr Glan yr Afon yn llwybr hamddenol ar lan yr Afon Garw - yn oes Fictoria, defnyddiwyd y dyfroedd hyn i olchi glo ac roedd yn cael ei hadnabod fel ‘yr afon ddu’. O dan ganopi’r coed castanwydd melys, mae cnocellod brith mwyaf, boncathod a thylluanod brych yn cysgodi, ac ar lan yr afon mae dyfrgwn, glas y dorlan a bronwennod y dŵr, ac ar ddiwedd dydd, mae ystlumod yn hedfan.
Dewisiwch Grwydr y Dolydd a dilynnwch y glöynnod byw a allai’ch harwain at y tegeirianau gwyllt; gwrandewch ar lwydfronnau a gwibedogion yn canu yn y gwrychoedd. Neu gallwch ddilyn Llwybr Cerdded y Coetir, sef llwybr hirach sy’n mynd â chi o gwmpas y llyn lle mae glas y dorlan, a’r ardd Siapaneaidd sy’n llawn coed masarn, yn hardd yn ei blodau yn y gwanwyn ac yn danllyd ei lliwiau coch ac aur yn yr hydref.
Gwylio Byd Natur
Mynnwch gopi o arweiniad ‘Gwylio Byd Natur’ pan ewch am dro ym Mharc Gwledig Bryngarw a chewch eich synnu gan ddyfeisgarwch yr adar a’r creaduriaid o’ch cwmpas. Cewch weld sut mae cnocellod y cnau yn agor cnau ac yn gallu teithio i lawr coed gyda’u pigau ar y blaen, neu sut mae ymylon gloÿnnod byw ymylon oren yn dychryn ysglyfaethwyr. Hwyrach eich bod yn meddwl bod llwyth o grifft broga yn y pyllau, ond dim ond pum wy mewn 2,000 sy’n debygol o fynd yr holl ffordd i fod yn oedolion broga! Gallwch hefyd sylwi ar dechnegau bwydo amrywiol wiwerod, llygod a llygod dŵr drwy edrych ar y cnau collen sydd mewn coetiroedd, neu ddyfalu sut yr oedd ffwng penodol sy’n tyfu ar goed bedw yn arfer cael ei ddefnyddio i roi min ar gyllyll.
Oriau agor
Haf: o 10am (mynediad olaf am 5.30pm)
Gaeaf: o 10am (mynediad olaf am 4.30pm)
Mynediad
Am ddim
Parcio
1 Ebrill i 30 Medi: £2.50 am hanner diwrnod, £4.00 am ddiwrnod cyfan
1 Hydref i 31 Mawrth: £1.00 am ddiwrnod cyfan
Manylion cyswllt
Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw
Brynmenyn
ger Pen-y-bont ar Ogwr
CF32 8UU
01656 725155 (parc)
01656 729009 (tŷ)
www.bryngarwhouse.co.uk
Cyfleusterau





